Antena

Amdanom Ni

Mae Antena Cyfyngedig yn Gynhyrchwyr Annibynnol, ac yn cynhyrchu rhaglenni i'r Ifanc, Adloniant Ysgafn a Dogfennau i nifer o Ddarlledwyr. Cafodd y Cwmni gwreiddiol (Dime Goch) ei sefydlu yn 1988, ac wedi ehangu mewn gwahanol feysydd. Yn ddiweddar mae Antena wedi sefydlu Adrannau Corfforaethol ac adeiladu gwefannau i amryw o gwsmeriad.

Swyddfa Caernarfon

Mae prif Swyddfa Antena wedi ei leoli yng Nghaernarfon, Gwynedd. Mae ganddon ni adnoddau technegol heb eu hail, adran graffeg, adran sy’n dylunio a chynnal gwefannau a stiwdio sy’n addas ar gyfer saethu fideo neu luniau llonydd. Mae gallu Antena i gyflwyno a darparu deunydd yn gyflym ac yn effeithiol yn cael ei gydnabod gan ein cwsmeriad i gyd, ac wedi arwain at bartneriaethau gyda Darlledwyr a Chynhyrchwyr Rhyngwladol.

Caerdydd

Mae swyddfa Antena yng Nghaerdydd wedi ei leoli yn gyfleus yn Y Ganolfan Ddarlledu, Croes Cwrlwys, munudau yn unig o draffordd yr M4 a dim ond chwarter awr o Faes Awyr Caerdydd, ac wrth gwrs llai na dwy awr o Lundain ar y trên.