Antena

Ein Gwaith

Y Lle 2012

Mae darparu rhaglenni i bobol ifanc ac ieuenctid yn ganolog i waith y cwmni ers y cychwyn.

Ers mis Ionawr 2011, mae Antena yn cyfleu cyfres Y LLE ar gyfer S4C sef rhaglenni sy'n troi o gwmpas diddordebau pobol ifanc.

Ers mis Ionawr 2012, mae'r rhaglen yma yn rhedeg yn wythnosol, bob nos Iau am 18.30.

ylle.co.uk

Orig

Ym mis Rhagfyr 2011 darlledwyd rhaglen am y diweddar Orig Williams.

Cyflwynydd y rhaglen oedd Tara Bethan yr actores a'r gantores a merch Orig.

Roedd yn rhaglen deimladwy a phersonol ac fe gafodd adwaith da iawn gan y gynulleidfa.

Cofio Ceredig

Rhaglen arall a darlledwyd dros y Nadolig 2011 oedd rhaglen awr i gofio am Huw Ceredig fu farw y llynedd.

Eto roedd hon yn raglen deimladwy, wedi ei chyflwyno gan ei ffrind pennaf, Iestyn Garlick ac unwaith eto fe gafwyd adwaith da iawn i'r rhaglen.